Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Categori: Teithiau

Taith mis Awst

iestyn 16/08/2008 @ 13:46

Photobucket

Taith mis Gorffennaf 2008

iestyn 21/06/2008 @ 13:48

Photobucket

Fideo Pen-y-Fan - 23.9.07

iestyn 13/04/2008 @ 16:46


Taith Gorffennaf - Twmbarlwm

rhys 09/07/2007 @ 16:55

Bydd taith nesaf Clwb Cerdded 2YQ i ben Twmbarlwm ar y cyd â Menter Iaith Sir Caerffili. Er mwyn cwrdd â chriw y Menter Iaith ym maes parcio Cwmcarn Forest Drive erbyn 11:30, triwch fod tu allan i'r Mochyn Du erbyn 11:00 (gan gynnwys Alun!)

image5.jpg

Hyd y daith yw 6 milltir a hanner, a dylai gymeryd tua 4 awr a hanner.  Dewch ag esgidau addas a chinio.

Os ydych am ddod, cysylltwch â Rhys ar 07817921435

Map o lwybr y daith [PDF]

Taith Ystradfallte - Wedi'i ohurio, nawr ar 20.5.07

rhys 09/05/2007 @ 09:32

Oherwydd y tywydd, mae'r daith wedi'i ohurio, bydd nawr at yr 20fed o Fai.

Poster Ystradfallte 13.5.07

Cofiwch am y daith gerdded dydd Sul yma yn Ystradfellte ar dydd Sul y 13eg o Fai - i weld (a cherdded tu ol) i'r Rhaedrau - dewch a chot law!
Cwrdd tu allan i'r Mochyn Du am 11.00 yb.

Teithiau Cerdded 2007

rhys 01/05/2007 @ 21:37

Dyma restr o deithiau Clwb Cerdded 2YQ yn 2007. Gall y dyddiad a lleoliad newid, felly cysylltwch â Iestyn os ydych yn bwriadu mynychu unrhyw daith. (e-bost: clwbcerdded2yq [at]googlemail.com)

Ebrill 15 - Y Garth (i'r gogledd o Gaerdydd). Manon i arwain

Mai 13 - Ystradfellte (Cwm Nedd). Iestyn i arwain

Mehefin 10 - Ogwr

Gorffennaf 29 - Twmbarlwm (rhwng Rhisga a Cross Keys). Rhys i arwain

Awst 20 - Penrhyn Gŵyr

Medi 19 - Pen y Fan (Bannau Brycheiniog)


map wedi ei dagio gyda cerddedcaerdydd gan user - Tagzania

Gwefan da ar gyfer llwybrau yn sir Caerffili

rhys 26/04/2007 @ 15:26

Ar wefan (uniaith Saeseng) Visit Caerphilly, mae modd lawrlytho ac argraffu mapiau ar gyfer 12 taith gerdded - rhaid sgrolio i lawr i waelod y dudalen. Mae pob un, sydd ar ffurf PDF yn cynnwys map OS clir, cyfarwyddiadau manwl a gwybodaeth hanesyddol ac ymarferol (e.e. ble mae'r dafarn agosaf).

Es i ar un Mynydd Machen ar y penwythnos.