Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Archif: Mai 2007

Taith Ystradfallte - Wedi'i ohurio, nawr ar 20.5.07

rhys 09/05/2007 @ 09:32

Oherwydd y tywydd, mae'r daith wedi'i ohurio, bydd nawr at yr 20fed o Fai.

Poster Ystradfallte 13.5.07

Cofiwch am y daith gerdded dydd Sul yma yn Ystradfellte ar dydd Sul y 13eg o Fai - i weld (a cherdded tu ol) i'r Rhaedrau - dewch a chot law!
Cwrdd tu allan i'r Mochyn Du am 11.00 yb.

Grŵp y Clwb Cerdded ar Flickr

rhys 08/05/2007 @ 11:08

Mae Alun wedi creu grŵp Clwb Cerdded ar Flickr.  Os oes gyda chi gyfrif Flickr, yna ymunwch â'r grŵp ac ychwanegu unrhyw luniau o'n teithiau ato.  Gallwch agor cyfrif am ddim, ond os nad ydych eisiau gwneud hynny ond hoffech ychwnaegu eich lluniau at y grŵp, gallwch e-bostio'r lluniau ataf i (rhys [at] jobscymraeg.com).

Teithiau Cerdded 2007

rhys 01/05/2007 @ 21:37

Dyma restr o deithiau Clwb Cerdded 2YQ yn 2007. Gall y dyddiad a lleoliad newid, felly cysylltwch â Iestyn os ydych yn bwriadu mynychu unrhyw daith. (e-bost: clwbcerdded2yq [at]googlemail.com)

Ebrill 15 - Y Garth (i'r gogledd o Gaerdydd). Manon i arwain

Mai 13 - Ystradfellte (Cwm Nedd). Iestyn i arwain

Mehefin 10 - Ogwr

Gorffennaf 29 - Twmbarlwm (rhwng Rhisga a Cross Keys). Rhys i arwain

Awst 20 - Penrhyn Gŵyr

Medi 19 - Pen y Fan (Bannau Brycheiniog)


map wedi ei dagio gyda cerddedcaerdydd gan user - Tagzania