Dyma flog Clwb Cerdded 2YQ, ble cewch wybod am deithiau a gweithgareddau'r clwb, ac hefyd adolygiadau o offer, tywyslyfrau a gwefannau defnyddiol. Mae croeso i unrhywun gyfrannu drwy adael sylw, neu drwy gyfranu erthygl.
Rhaglen 2008:
Sul 11 Mai - Pontypridd Taith 6 milltir ar hyd comin Eglwysilan. Lefel: Cymhedrol Cwrdd: 11yb, Mochyn Du
Sadwrn 14 Mehefin - Mynydd Caerffili Taith 5 milltir o Fynydd Caerffili i Graig y Nos. Lefel: Cymhedrol Cwrdd: 11yb, Mochyn Du
Sadwrn 26 Gorffennaf - Ponsticill Taith 3 milltir ar hyd y Daith Taf i Bonsticill, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan alw mewn yn nhafarn y Fuwch Goch. Lefel: Hawdd Cwrdd: 11yb, Mochyn Du neu 12yp yng Ngaholfan Gymunedol Cefncoed
Sul 17 Awst - Twyni Cynffig Taith 5 milltir yng ngwarchodfa natur Cenffig. Lefel: Hawdd Cwrdd: 11yb, Mochyn Du
Sul 7 Medi - Coed Duon Taith 5 milltir ar hyd Cwm Sirhywi. Lefel: Cymhedrol
Cwrdd: 11yb, Mochyn Du
Sul 5 Hydref - Bont-faen Taith 8 milltir yn y wlad o amgylch y Bont-faen. Lefel: Hawdd/Cymhedrol Cwrdd: 10yb, Mochyn Du
Ry ni'n rhannu ceir i gyrraedd dechrau'r daith ac yn rhannu costau petrol.
Ebostiwch clwbcerdded2yq@googlemail.com cyn pob taith i roi gwybod os ydych am ddod.
Dylech wisgo esgidiau a dillad addas gan gynnwys dillad glaw gan fod amodau tywydd yn gallu troi'n gyflym.
Dylech ddod a bwyd a diod (o leiaf 1 litr) ar gyfer bob taith. Mae'r teithiau'n addas fel arfer ar gyfer pobl sydd heb wneud llawer o gerdded o'r blaen.
Mae Clwb Cerdded 2YQ yn cydnabod y gall gerdded neu fynydda arwain at anaf personol neu farwolaeth. Dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn fod yn ymwybodol o'r peryglon a'u derbyn, a bod yn gyfrifol am eu gweithgareddau eu hunain. Hoffem ddatgan yn glir nad oes gennym ni yswiriant i'r clwb felly bydd angen yswirio rhag perygl ar eich liwt eich hun.