Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Taith mis Gorffennaf 2008

Photobucket

iestyn — 2008-06-21 GTM 1 @ 13:48

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Cwrs Mynydda

Mae cyrsiau diogelwch mynydda 'Over The Hill' yn cael eu cynnal yng nghanolfan ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ger Libanws ar benwythnosau Mehefin 7fed ac Medi'r 20fed. Cost y cwrs yw £30 ac fe gewch ddysgu sut mae ddefnyddio cwmpawd a mapiau ynghyd a chyngor ar offer diogelwch, dillad ayb. Mae manylion pellach ar gael o'u gwefan:

http://www.overthehill.org.uk/

iestyn — 2008-05-19 GTM 1 @ 22:14

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Fideo Pen-y-Fan - 23.9.07


iestyn — 2008-04-13 GTM 1 @ 16:46 Tagiau:

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Taith Gorffennaf - Twmbarlwm

Bydd taith nesaf Clwb Cerdded 2YQ i ben Twmbarlwm ar y cyd â Menter Iaith Sir Caerffili. Er mwyn cwrdd â chriw y Menter Iaith ym maes parcio Cwmcarn Forest Drive erbyn 11:30, triwch fod tu allan i'r Mochyn Du erbyn 11:00 (gan gynnwys Alun!)

image5.jpg

Hyd y daith yw 6 milltir a hanner, a dylai gymeryd tua 4 awr a hanner.  Dewch ag esgidau addas a chinio.

Os ydych am ddod, cysylltwch â Rhys ar 07817921435

Map o lwybr y daith [PDF]

rhys — 2007-07-09 GTM 1 @ 16:55 Tagiau:

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Taith Ystradfallte - Wedi'i ohurio, nawr ar 20.5.07

Oherwydd y tywydd, mae'r daith wedi'i ohurio, bydd nawr at yr 20fed o Fai.

Poster Ystradfallte 13.5.07

Cofiwch am y daith gerdded dydd Sul yma yn Ystradfellte ar dydd Sul y 13eg o Fai - i weld (a cherdded tu ol) i'r Rhaedrau - dewch a chot law!
Cwrdd tu allan i'r Mochyn Du am 11.00 yb.

rhys — 2007-05-09 GTM 1 @ 09:32

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Grŵp y Clwb Cerdded ar Flickr

Mae Alun wedi creu grŵp Clwb Cerdded ar Flickr.  Os oes gyda chi gyfrif Flickr, yna ymunwch â'r grŵp ac ychwanegu unrhyw luniau o'n teithiau ato.  Gallwch agor cyfrif am ddim, ond os nad ydych eisiau gwneud hynny ond hoffech ychwnaegu eich lluniau at y grŵp, gallwch e-bostio'r lluniau ataf i (rhys [at] jobscymraeg.com).

rhys — 2007-05-08 GTM 1 @ 11:08 Tagiau:

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Teithiau Cerdded 2007

Dyma restr o deithiau Clwb Cerdded 2YQ yn 2007. Gall y dyddiad a lleoliad newid, felly cysylltwch â Iestyn os ydych yn bwriadu mynychu unrhyw daith. (e-bost: clwbcerdded2yq [at]googlemail.com)

Ebrill 15 - Y Garth (i'r gogledd o Gaerdydd). Manon i arwain

Mai 13 - Ystradfellte (Cwm Nedd). Iestyn i arwain

Mehefin 10 - Ogwr

Gorffennaf 29 - Twmbarlwm (rhwng Rhisga a Cross Keys). Rhys i arwain

Awst 20 - Penrhyn Gŵyr

Medi 19 - Pen y Fan (Bannau Brycheiniog)


map wedi ei dagio gyda cerddedcaerdydd gan user - Tagzania

rhys — 2007-05-01 GTM 1 @ 21:37 Tagiau:

Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Gwefan da ar gyfer llwybrau yn sir Caerffili

Ar wefan (uniaith Saeseng) Visit Caerphilly, mae modd lawrlytho ac argraffu mapiau ar gyfer 12 taith gerdded - rhaid sgrolio i lawr i waelod y dudalen. Mae pob un, sydd ar ffurf PDF yn cynnwys map OS clir, cyfarwyddiadau manwl a gwybodaeth hanesyddol ac ymarferol (e.e. ble mae'r dafarn agosaf).

Es i ar un Mynydd Machen ar y penwythnos.

rhys — 2007-04-26 GTM 1 @ 15:26 Tagiau:

Darllen/Ychwanegu Sylwadau (1) digg it | del.icio.us